Rhif y ddeiseb: P-06-1275

 

Teitl y ddeiseb: Galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried eu penderfyniad i dynnu nôl o gynllun ffordd osgoi Llanbedr

 

Geiriad y ddeiseb:

Yn dilyn misoedd o drafodaethau cadarnhaol, tynnodd y Llywodraeth allan o'r cynllun i adeiladu ffordd osgoi Llanbedr, Gwynedd, yn seiliedig ar wybodaeth ddiffygiol eu hadroddiad.

Nid yn unig bydd atal y ffordd osgoi yn andwyol i'r amgylchedd wrth i gannoedd o geir barhau i giwio yn y pentref ond mae'r penderfyniad hefyd yn ergyd anferth i unrhyw obeithion o ddatblygu swyddi safon uchel ar y maes awyr - sef prif obaith yr ardal yma o Feirionnydd o ran rhoi gwaith da i'n pobl leol.

 

 

 

 


1.        Cefndir

Panel adolygu ffyrdd

Ym mis Mehefin 2021 – mewn datganiad i'r Cyfarfod Llawn – cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd fod panel adolygu ffyrdd yn cael ei sefydlu i adolygu buddsoddiadau ffyrdd arfaethedig Llywodraeth Cymru. Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog y byddai pob cynllun ffordd newydd yn cael ei atal tra bod y cynlluniau presennol yn cael eu hadolygu, ac eithrio mewn achosion “lle mae peiriannau cloddio yn y ddaear ar hyn o bryd”.

Cafodd aelodaeth y panel a'i gylch gorchwyl eu cyhoeddi, wedyn, ym mis Medi 2021.

Mae gan y panel y dasg o adolygu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi mewn ffyrdd, er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r blaenoriaethau a nodir yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, gan gynnwys yr hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy.

Ym mis Chwefror 2022, cyhoeddodd y panel ei adroddiad cychwynnol, gan nodi'r meini prawf y bydd yn eu defnyddio i adolygu pob cynllun ynghyd â rhestr o'r cynlluniau o fewn cwmpas yr adolygiad. Ei nod yw cyhoeddi ei adroddiad terfynol yn nodi argymhellion ynghylch a ddylai pob cynllun fynd rhagddo’r haf hwn.

Ffordd Osgoi Llanbedr

Ar adeg sefydlu’r panel, gofynnodd Llywodraeth Cymru iddo roi golwg benodol ar gynllun ffordd osgoi Llanbedr o fewn 4 wythnos. Y rheswm dros hynny oedd natur dybryd amserlen y cynllun, yn gysylltiedig â therfynau amser cyllid Ewropeaidd.

Gwnaeth y cynllun gael caniatâd cynllunio ym mis Mawrth 2020 ac roedd hynny'n golygu creu ffordd osgoi i’r gorllewin o Lanbedr er mwyn lleddfu traffig drwy’r pentref, ynghyd â gwella mynediad i Faes Awyr Llanbedr.

O ystyried ei chais i’r panel adolygu’r cynllun o fewn 4 wythnos, gofynnodd Llywodraeth Cymru i’r panel ganolbwyntio ar ddau gwestiwn allweddol:

A yw atebion nad ydynt yn ymwneud â thrafnidiaeth, ac atebion ar wahân i gynyddu’r capasiti ar gyfer ceir preifat ar y rhwydwaith ffyrdd wedi cael eu hystyried yn ddigon?; ac

a yw unrhyw gynnydd mewn allyriadau CO2 ar y rhwydwaith ffyrdd, neu unrhyw rwystrau sylweddol i’r gwaith o gyflawni ein targedau ar gyfer datgarboneiddio wedi cael eu hystyried yn ddigon?

Cydnabu Llywodraeth Cymru “efallai na fydd y farn gyflym hon yn elwa o fewnbynnau'r panel llawn”.

Ym mis Tachwedd 2021, cyhoeddodd y panel ei ganfyddiadau gan ddod i'r casgliad nad yw'r cynllun yn cyd-fynd â Strategaeth Drafnidiaeth Cymru ac felly ni ddylid ei ddwyn yn ei flaen.

Gwnaeth y Dirprwy Weinidog dderbyn argymhelliad y panel a chyhoeddi na fyddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi unrhyw waith pellach ar y cynllun. At hynny, dywedodd y Dirprwy Weinidog:

…rwy’n ymrwymedig i ddarparu cyllid ar gyfer datblygu a gweithredu pecyn amgen o fesurau i fynd i'r afael ag effaith negyddol traffig yn Llanbedr ac mewn pentrefi eraill ar yr A496, wrth ar yr un pryd annog pobl i newid y ffordd maent yn teithio a lleihau allyriadau CO2. Gall y pecyn hefyd ystyried gofynion mynediad i'r maes awyr i gefnogi datblygiadau cysylltiedig.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Yn ei lythyr at y Cadeirydd dyddiedig 6 Mai 2022, dywed y Dirprwy Weinidog na fydd yn diwygio ei benderfyniad ar y mater.

Mae’r llythyr yn amlinellu bod swyddogion Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru  yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd i ystyried opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy ac y bydd digwyddiadau ymgysylltu cymunedol yn cael eu cynnal i geisio barn leol ar opsiynau eraill.

Ym mis Chwefror 2022, cyhoeddwyd y byddai'r Arglwydd Burns yn arwain Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru a datblygu argymhellion ar gyfer prosiectau trafnidiaeth ar draws gogledd Cymru.

3.     Camau gan Senedd Cymru

Ym mis Tachwedd 2021, gwnaeth Mabon ap Gwynfor AS godi’r mater o fynediad at wasanaethau mewn pentrefi fel Llanbedr gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James. Dywedodd y Gweinidog:

Byddai'r ffordd wedi costio sawl miliwn o bunnau. Rydym yn hapus iawn i weithio gyda Chyngor Gwynedd i weld sut y gallwn fuddsoddi'r arian hwnnw mewn gwasanaethau gwyrdd lleol i sicrhau bod gennym seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy'n gweithio i bobl Gwynedd.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.